Ein Polisïau Allweddol yng Nghymru

Diogelwch Trydanol yn Gyntaf: Darparu datrysiadau i Gymru er mwyn cadw pobl yn ddiogel rhag damweiniau a thanau trydanol

Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yng Nghymru

Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yw elusen y DU sy'n ymroddedig i leihau ac atal difrod, anafiadau a marwolaethau yng Nghymru a achosir gan drydan. Ein nod yw sicrhau y gall pawb ddefnyddio trydan yn ddiogel yn eu cartrefi.

Rydym yn cael ein cydnabod gan Lywodraeth Cymru a diwydiant fel yr elusen ymgyrchu fwyaf blaenllaw a'r awdurdod technegol ar ddiogelwch trydanol yn y cartref.  Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn:

  • Lobïo a chynghori Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub a phartneriaid eraill ar wella polisi diogelwch trydanol ledled Cymru.
  • Ymgyrchu ar ran defnyddwyr Cymru i wella rheoliadau diogelwch a sicrhau bod negeseuon diogelwch yn briodol, yn gyfredol ac wedi'u cyfathrebu'n dda.
  • Cynnal 'Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru' bob blwyddyn gyda'n partneriaid yng Nghymru, sy'n ymroddedig i godi proffil defnyddio trydan yn ddiogel yng Nghartrefi Cymru.
  • Gweithio gyda thenantiaid, landlordiaid a pherchnogion tai i leihau nifer y marwolaethau a damweiniau yng nghartrefi Cymru.
  • Darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol i helpu pobl i ddiogelu eu hunain rhag nwyddau trydanol anniogel, rhai sydd wedi cael eu had-alw, rhai ffug ac sy'n is-safonol, yn enwedig y rhai sy’n cael eu gwerthu drwy farchnadoedd ar-lein.

Ein Ffocws Polisi i Gymru

  • Lleihau nifer y tanau sy'n cael eu hachosi gan drydan yng nghartrefi Cymru.
  • Gwella diogelwch trydanol ar draws pob deiliadaeth tai - tai rhent preifat a chymdeithasol a'r sector perchen-feddiannaeth.
  • Lobïo am adolygiad o Ymweliadau Diogelwch yn y Cartref o ran sut y maent yn nodi problemau trydanol a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hadrodd a’u cyfeirio’n briodol at Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru.
  • Ymgyrchu i amddiffyn y perchenogion cartrefi sydd fwyaf agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar adnoddau i wella diogelwch trydanol yn eu cartrefi.
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr Cymru o'r risgiau sy'n gysylltiedig â phrynu nwyddau trydanol o farchnadoedd ar-lein.
  • Cynghori cynghorau yng Nghymru sy'n gwerthu nwyddau trydanol ail-law i'r cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a chadw’n ddiogel gyda gwiriadau digonol.
  • Gwella mynediad at bwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau trydan yng Nghymru.

Atal Tanau yng Nghymru sy'n Cael eu Hachosi gan Drydan

Mae gan Gymru gyfran uwch o danau sy'n cael eu hachosi gan drydan na rhannau eraill o'r DU. Yng Nghymru, mae 62% o'r holl danau domestig damweiniol yn drydanol, o'i gymharu â 53% yn Lloegr.[i]

Rhwng 2014-2019, cafodd 4,000 o danau eu hachosi oherwydd ffynhonnell cynnau trydanol a 1,500 eu hachosi gan nwyddau gwynion, megis sychwyr dillad, peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad.[ii]

Rydym am Weld:

  • Ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru - sy'n digwydd bob blwyddyn yn hwyr ym mis Tachwedd.
  • Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gynnal ymgyrchoedd cwsmeriaid rheolaidd yn y cyfryngau Cymreig i godi ymwybyddiaeth bod trydan yn achosi tanau yng nghartrefi Cymru.
  • Gwella'r broses o gofnodi achosion o gamddefnyddio trydan yng nghartrefi Cymru, fel tanau a achosir gan wefru offer electronig.
  • Ymgyrch i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o nwyddau trydanol anniogel a werthir ar-lein.

Cadw Cartrefi Cymru'n Ddiogel

Rydym yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod pobl sy'n byw yn y sectorau Rhentu Preifat a Rhentu Cymdeithasol yng Nghymru yn cael archwiliadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau drwy'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru), ond rydym am sicrhau bod y rheoliadau hyn yn dod i rym cyn gynted â phosibl.

Rydym am Weld:

  • Bod gwiriadau diogelwch trydanol gorfodol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol.
  • Cyhoeddi amserlen a chynllun o ran pryd y caiff yr archwiliadau hyn eu cyflwyno.
  • Strategaeth ymgyrchu i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol o'r gwelliannau i ddiogelwch hyn.

Amddiffyn Pobl sy'n Agored i Niwed

Disgwylir i nifer y bobl yng Nghymru dros 80 oed ddyblu erbyn 2035, gydag oddeutu 50,000 o bobl 65+ oed yn byw gyda dementia, sy'n cyflwyno heriau o ran diogelwch trydanol.[iii] Mae Ymweliadau Diogelwch yn y Cartref a gynhelir gan y Gwasanaethau Tân yng Nghymru yn hanfodol er mwyn helpu i atal tanau trydanol.

Rydym am Weld:

  • Adolygiad o'r modd y mae Ymweliadau Diogelwch yn y Cartref yn blaenoriaethu ac yn datrys materion diogelwch trydanol yng nghartrefi Cymru.
  • Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun adfeilio i ariannu gwelliannau i ddiogelwch trydanol a gwiriadau mewn cartrefi pobl sy'n agored i niwed yng Nghymru.
  • Mae pob aelwyd sydd â pherson dros 80 oed yn derbyn gwiriad diogelwch trydanol am ddim.
  • Ymweliadau Diogelwch yn y Cartref sy'n nodi problemau trydanol i'w hatgyfeirio i Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu fforddio gwelliannau, gyda chyllid ar gael i ddatrys unrhyw broblemau.

Gwella Diogelwch Defnyddwr Ar-lein

Yng Nghymru, er nad yw'r deddfau sy'n ymwneud â diraddio nwyddau trydanol anniogel wedi'u datganoli, mae'n bwysig nodi bod yna lawer o broblemau gyda defnyddwyr Cymru yn prynu nwyddau trydanol anniogel ar-lein.

Yn ôl ein hymchwil ni, cyfaddefodd ychydig dros un o bob pedwar o drigolion Cymru, 26%, y byddent yn fwriadol yn prynu rhywbeth ffug neu is-safonol ar-lein pe baent yn ei weld am ffracsiwn o'r pris a bod un o bob 11 o oedolion yng Cymru wedi cael profiad uniongyrchol o sioc neu dân a achoswyd gan gynnyrch trydanol a brynwyd ar-lein.[iv]

Rydym am Weld:

  • Ymgyrchoedd defnyddwyr cydgysylltiedig yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â phrynu nwyddau trydanol o farchleoedd ar-lein.
  • Cymorth yn cael ei roi i Safonau Masnach yng Nghymru i atal a chymryd camau gorfodi yn erbyn gwerthu nwyddau trydanol anniogel yng Nghymru.
  • Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Fil yn Senedd y DU er mwyn atal gwerthu nwyddau trydanol anniogel, is-safonol a ffug.

Defnyddio Trydan yng Nghymru yn y Dyfodol

Mae cartrefi Cymru bellach yn defnyddio trydan mewn llawer mwy o ffyrdd gwahanol nag yr oeddent hyd yn oed 10 mlynedd yn ôl. Mae gwefru mwy o eitemau electronig, cynydd yn y defnydd o gerbydau trydan a defnydd mwy o drydan i wresogi yn rhai o'r pethau y mae angen i ni eu hystyried wrth wella cartrefi, seilwaith strydoedd ac asesu a yw cartrefi unigol yng Nghymru, rhai ohonynt ymhlith yr hynaf yn y DU, yn gallu ateb heriau bywyd modern.

Rydym am Weld:

  • Adolygiad i ganfod a yw'r stoc dai mewn ardaloedd trefol mawr yn cyrraedd safonau diogelwch modern ac a yw'n gallu ymdopi â mwy o ddefnydd trydan.
  • Mwy o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl.

 

[i] Methodoleg a dadansoddiad Diogelwch Trydanol yn Gyntaf - Ebrill 2020

[ii] Methodoleg a dadansoddiad Diogelwch Trydanol yn Gyntaf

[iii] Adroddiad Diogelwch Trydanol yn Gyntaf gyda Phrifysgol Abertawe – "Sut gallwn ni gadw pobl hŷn yng Nghymru yn ddiogel? "https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/media/1264/safer-homes-wales-report-welsh.pdf

[iv] Ymchwil Diogelwch Trydanol yn Gyntaf 2019