Siopa Ar-lein Mwy Diogel
Rydym oll wedi dioddef y siom o brynu eitem ar-lein, dim ond i ddod o hyd i rywbeth hollol wahanol y tu mewn i'r pecyn, pan fydd yn cyrraedd o'r diwedd.
Ond beth pe bai eich pryniant diwerth yn troi allan yn beth farwol?
Rydym wedi canfod bod chwarter y bobl yn y DU wedi dioddef sgamiau ffug wrth siopa ar-lein ac mae gan un o bob deg Prydeiniwr brofiad uniongyrchol o dân neu sioc drydanol a achoswyd gan gynnyrch trydanol y maent wedi'i brynu ar-lein.
Er gwaethaf hyn, mae un o bob tri yn cyfaddef y byddent yn prynu cynnyrch trydanol ffug am arbediad o 30% neu lai. Ond, gan fod cynhyrchion trydanol ffug ac is-safonol yn peri risg ddifrifol o dân neu sioc drydanol, mae'r bargeinion hyn yn sicr i fod yn rhy dda i fod yn wir.
Prynu o Farchnadoedd Ar-lein
Prynodd traean o'r bobl, sydd wedi prynu eitem drydanol ffug, yr eitem honno o farchnad ar-lein. Mae'n hawdd sefydlu eich hun fel masnachwr ar safleoedd poblogaidd fel Amazon Marketplace, eBay a Wish ac nid oes digon o reoleiddio ar waith i atal pobl rhag defnyddio'r safleoedd i werthu cynhyrchion trydanol ffug ac is-safonol, yn ogystal â'r rhai sy'n destun ad-alw cynnyrch oherwydd risg diogelwch difrifol.
Mae Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yn argymell prynu oddi wrth fanwerthwr yr ydych yn ymddiried ynddynt, naill ai'n uniongyrchol o wefan y gwneuthurwr neu o enw dibynadwy ar y Stryd Fawr – bydd y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn bodloni'r safonau diogelwch cywir ond os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, gallwch ddychwelyd y cynnyrch i'w atgyweirio neu i dderbyn ad-daliad.
Sut i nodi cynhyrchion trydanol ffug ar-lein
Os yw'r pris (bron) yn iawn, mae'n debyg ei fod yn ffug
Mae rhai nwyddau ffug ar werth â phris ychydig yn is na'r gwerth manwerthu a argymhellir, gan dwyllo siopwyr craff sydd fel arfer yn rhy glyfar i gael eu sgamio gyda bargeinion sy’n 'rhy dda i fod yn wir'. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich gwaith cartref os byddwch yn penderfynu prynu cynnyrch sy'n is na phrisiau manwerthu'r stryd fawr.
Peidiwch â chymryd gair y gwerthwr amdano – na'r adolygydd!
Cymerwch ofal rhag cynnyrch sydd ag adolygiadau gwych yn unig, yn enwedig os nad yw'r adolygwyr wedi cael eu dilysu. Mae rhai safleoedd yn croesgyfeirio adolygiadau defnyddwyr gyda chronfa ddata eu prynwr ac yn labelu'r bobl hynny fel "prynwyr wedi'u dilysu".
Gwiriwch o ble rydych yn prynu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae'r cyflenwr wedi'i leoli, nid yw safle we 'co.uk' yn gwarantu bod y safle wedi'i lleoli yn y DU. Os nad oes cyfeiriad wedi’i nodi, neu os mai dim ond Blwch Post sydd, byddwch yn wyliadwrus; mae llawer o nwyddau trydanol ffug yn cael eu cynhyrchu dramor, lle na fyddant yn cael eu profi'n ddiogel, ac yn cael eu cynhyrchu mor gyflym a rhad â phosibl.
Cymerwch ofal rhag geiriau sy'n cymhwyso dilysrwydd yr eitem
Os yw'r gwerthwr yn honni bod y cynnyrch yn 'ddilys', yn un 'gwirioneddol' neu’n 'ddilys' yna gwiriwch y ffynhonnell ddwywaith. Nid oes angen i'r rhan fwyaf o fanwerthwyr sydd ag enw da i werthu eu cynnyrch fel hyn.
Sylwch ar y symbol clo er mwyn talu'n ddiogel
Chwiliwch am safleoedd gwe sy'n eich galluogi i dalu'n ddiogel – mae gan y rhain symbol clo ar waelod y sgrin pan fyddwch yn cwblhau manylion eich taliadau. Os na allwch ei weld, peidiwch â nodi manylion eich taliad.
Sut i wirio a ydych wedi prynu eitem ffug
Archwiliwch y pecyn a'r eitem yn ofalus
Cadwch lygad allan am arwyddion amlwg o ddeunydd pacio tenau ac argraffu is-safonol, megis camgymeriadau sillafu neu wallau gramadegol. Os ydych yn cwestiynu'r pecynnu, cymharwch eich eitem â delwedd ar-lein gan fanwerthwr y stryd fawr y gellir ymddiried ynddo.
Chwiliwch am label ardystio diogelwch dilys
Bydd gan bob cynnyrch trydanol un neu ragor o ardystiadau diogelwch ar eu label os cynhyrchwyd gan wneuthurwr cyfreithlon. Os yw'r marc ardystio yn bresennol dim ond ar y pecyn, ond nid ar y cynnyrch ei hun, mae hynny’n neges gref bod y cynnyrch yn ffug.
Sicrhewch fod popeth yno a ddylai fod yno
Efallai na fydd cynhyrchion ffug yn cynnwys deunyddiau atodol megis llawlyfr neu gerdyn cofrestru cynnyrch neu hyd yn oed yr holl ddarnau!
Gwiriwch y plwg
Os ydych wedi prynu'ch cynnyrch o fanwerthwr yn y DU, edrychwch i weld a oes gan y peiriant plwg neu bwerydd tri phin o'r DU.
Cadwch ffydd yn eich greddf – mae'n debygol eich bod yn iawn
Os ydych dal yn ansicr ynglŷn â'ch cynnyrch am unrhyw reswm, mae'n iawn i fod yn ofalus. Ewch i'r stryd fawr i gymharu'ch cynnyrch i'r rhai sydd ar werth yn y siop; os yw'ch eitem yn amrywio mewn unrhyw ffordd peidiwch â'i ddefnyddio.
Beth i'w wneud os ydych wedi prynu eitem ffug
Gweithredwch ar unwaith
Os oes gennych brawf bod eich eitem yn ffug, cysylltwch â'r cyflenwr yn syth i ddatgan eich achos a mynnu esboniad; os oes camgymeriad wedi'i wneud, dyma’u cyfle i egluro.
Mynnwch ad-daliad – ond arhoswch yn sifil ac yn ddigyffro
Mae gennych hawl gyfreithiol i ad-daliad os ydych wedi prynu rhywbeth ffug. Er gwaethaf hyn, gall fod yn anodd os ydych wedi prynu o ffynhonnell anhysbys felly cofiwch dalu gyda PayPal neu drwy eich cerdyn credyd, gan y bydd eich pryniant yn debygol o fod wedi’i yswirio.
Os yw'r gwerthwr yn gwrthod rhoi ad-daliad i chi
Os na allwch ddatrys yr anghydfod eich hun, cysylltwch â'r manwerthwr sy'n rheoli'r farchnad (fel Amazon) gan eu bod yn gallu ymyrryd ar eich rhan. Os na allant helpu, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06 am gyngor.
Tynnwch sylw defnyddwyr eraill – rhowch adborth
Os gallwch, gadewch adborth i rybuddio siopwyr yn y dyfodol am y sefyllfa a'r problemau posibl, ond cadwch at y ffeithiau a gwnewch yn siŵr bod unrhyw hawliadau'n gywir.
Peidiwch â'i anwybyddu - adroddwch amdano
Os ydych yn gwybod bod eich cynnyrch yn ffug, rhowch wybod amdano i Safonau Masnach fel y gallant weithredu yn erbyn y gwerthwr; mae gwerthu cynhyrchion ffug yn anghyfreithlon ac yn rhoi bywydau pobl mewn perygl.